Pobun

Ciw-restr ar gyfer Car Tew

(Y Criwr) Pell ac agos yma dewch,
 
(Pobun) Croeso i chwi bawb, a diolch i chwi heno am roddi arnaf yr anrhydedd olaf.
(0, 4) 341 Duw fo'n gwarchod, y câr Pobun, beth yw rhyw gyfarchiad fel yna?
(0, 4) 342 Beth sydd o'i le arnat?
(Meistres Pobun) Pa beth sydd arnat, beth sy'n dy flino?
 
(Car Tenau) Yr argen fawr, fy nghâr Pobun, a fynnech chwi'n gyrru ni adref eto?
(0, 4) 363 Ni bydd hynny ddim mor hawdd i chwi, myn gafr, achos y mae'ch cogydd yn un mor dda, a'r gwin heblaw hynny yn twymo'r gwaed.
(0, 4) 364 'Rwyf i'n ddigon cartrefol lle'r wyf.
(Pobun) Ie, ie,... dim ond... ond yr oedd yn fy meddwl i gynneu, pan ddaethoch i mewn yma gyntaf, y gallswn eich prynu i gyd a'ch gwerthu wedi hynny hefyd, ac na buasai hynny'n fwy o beth i mi na phe bawn yn torri f'ewin.
 
(Gwahoddedig 1) Beth a wnawn ni o ryw siarad cras fel hyn?
(0, 4) 367 Ni bydd ef ddim yn gyffredin yn siarad fel hyn.
(Meistres Pobun) A saif y gair amdanaf innau hefyd?
 
(Car Tenau) Ac onid do, yna pa aflwydd sydd arnoch?
(0, 4) 396 Mi wn.
(0, 4) 397 Y tu ôl i'r talcen y mae'r drwg, rhyw sychter yn yr ymennydd.
(0, 4) 398 Mi welais yr un helynt ar fy nhad fy hun, [fe fyddai'n aml fel hyn].
(0, 4) 399 Rhaid iti yfed llwnc er mwyn i'r gwin ireiddio d'ymennydd di.
(0, 4) 400 Hwdiwch, hogiau!
(0, 4) 401 Poethwch y gwin nes bod yr angerdd yn codi i'r awyr, a dodwch sinamwn a sinsir ynddo.
(Morwyn Ieuanc 2) [Mi glywais sôn fod maen i'w gael y tu mewn i'r wennol, a bod y meddygon mawr yn ei ddefnyddio, Chelidonius y gelwir ef.]
 
(Pobun) Na boed eisiau hir grefu arnoch, tyrd, dyro inni gân, fy annwyl gâr.
(0, 4) 455 [Fy nghyfaill tenau, gwae ni, gwae ni, cawn glywed ei gân am yr eira oer!]
(Car Tenau) {Yn canu.}
 
(Pobun) ['Rwy'n erfyn na sonioch ddim mwy am y peth—ni chlywaf mono mwy, pob peth yn dda.]
(0, 4) 485 O ryw ddrwg yn y gwaed y cyfyd peth fel hyn.
(0, 4) 486 Mi baraf dwymo cwpanaid o win eto i chwi.
(Pobun) Llawer o ddiolch, fy nghâr, ond gadewch hynny.
 
(Meistres Pobun) Ni chlywaf i ddim sain.
(0, 4) 514 Ni chlywaf i ddim llef.
(Car Tenau) Nac ychwaith un adlais gwan.
 
(Pobun) "Mae gwaed yn dewach na dŵr"—fe'i profir gennych heddiw'n llwyr,] a chwithau, yn fy nghyfyngder, yn rhoi i mi gymorth llaw a genau.
(0, 7) 688 Gan bwyll, fy nghâr Pobun.
(0, 7) 689 Os gwrandewi arnaf i, dim ond un gair—gan bwyll!
(Pobun) Ni adewch chwi monof ychwaith—
 
(Pobun) Ni adewch chwi monof ychwaith—
(0, 7) 691 Dim ond gan bwyll.
(0, 7) 692 Nid am adael y mae'r sôn—cywilydd i mi fyddai'ch gadael mewn trybini,
(Car Tenau) Digwydded i chwi ai da ai drwg, cymerwn ein dau ein rhan gyda chwi.
 
(Car Tenau) Digwydded i chwi ai da ai drwg, cymerwn ein dau ein rhan gyda chwi.
(0, 7) 694 [Cymerwn, fel y dywedwyd, ynwir!
(0, 7) 695 Gwelwch ein bod yn ffyddlon i chwi.]
(Pobun) O, llawer o ddiolch i chwi, fy ngheraint.
 
(Pobun) O, llawer o ddiolch i chwi, fy ngheraint.
(0, 7) 697 Perthynasau ydym ni!
(Pobun) Fe welsoch ddyfod cennad ataf ar orchymyn brenin galluog.
 
(Pobun) Fe welsoch ddyfod cennad ataf ar orchymyn brenin galluog.
(0, 7) 699 [Do...
(0, 7) 700 Mi wn, Pobun...
(0, 7) 701 Felly y bu, ond nid wyf i'n deall y cwbl!]
(Pobun) Gorchmynnodd i mi gymryd taith.
 
(Pobun) Gorchmynnodd i mi gymryd taith.
(0, 7) 703 [Ie, fel y dywedwyd—]
(Pobun) [O'r daith hon...]
 
(Pobun) [O'r daith hon...]
(0, 7) 705 [Ie, fel y dywedwyd eisoes, "Mae gwaed yn dewach na dŵr."]
(Pobun) O'r daith hon, mi wn yn dda, ni ddof i byth yn f'ôl.
 
(Pobun) O'r daith hon, mi wn yn dda, ni ddof i byth yn f'ôl.
(0, 7) 707 [Ha, byth?
(0, 7) 708 Yn siwr, lle ni bo dim byd, yno bydd hawl y brenin wedi colli.]
(Pobun) [Fy ngheraint, a glywsoch chwi pa beth a ddywedais?]
 
(Pobun) [Fy ngheraint, a glywsoch chwi pa beth a ddywedais?]
(0, 7) 710 [Nid wrth glustiau byddar yr oeddych yn llefaru.]
(Car Tenau) [Ha, nage'n wir, myn fy ffydd!]
 
(Pobun) [Ni welir monof byth yn f'ôl.]
(0, 7) 713 [Ai sicr gennych i chwi ddeall y gennad yn iawn?]
(Pobun) [Myfi?]
 
(Pobun) [Myfi?]
(0, 7) 715 [Y geiriau a'u hystyr, a ddeallsoch chwi'r cwbl yn iawn?]
(Pobun) [A ddarfu i mi?]
 
(Pobun) [A ddarfu i mi?]
(0, 7) 717 Hynny yw, meddaf i—rhyw ymwelwr heb ei eisiau ydoedd?
(0, 7) 718 H'm, gâr!
(Car Tenau) Ie, feddyliwn i, trueni am hynny.
 
(Car Tenau) Ie, feddyliwn i, trueni am hynny.
(0, 7) 720 Felly'r ydych yn barnu megis finnau?
(0, 7) 721 Ie, fel y dywedwyd, ie, Duw'n rhwydd gyda thi, fy nghâr, Pobun, dyna i chwi'r cwbl sy gennyf i i'w ddywedyd.
(Pobun) Fy ngheraint, aroswch, gwrandewch arnaf!
 
(Pobun) Fy ngheraint, aroswch, gwrandewch arnaf!
(0, 7) 723 [Ond odid nad oes i ti ryw ddymuniad arall?
(0, 7) 724 Siarad yn eglur, y câr.]
(Pobun) Bydd raid i mi roddi cyfrif yno, [ac y mae gelyn i mi, a bydd hwnnw ar fy ffordd yn rymus iawn o hyd.
 
(Pobun) O, gwrandewch arnaf!]
(0, 7) 727 Pa fath gyfrif, dywed?
(Pobun) Cyfrif o'm holl weithredoedd ar y ddaear.
 
(Pobun) [Y modd y treuliais fy nyddiau, a pha beth a wneuthum yn fy nigofaint, ar hyd y flwyddyn, ddydd a nos;] am hynny, er mwyn Crist, da chwi, rhowch gymorth i mi amddiffyn f'achos.
(0, 7) 730 [Beth?
(0, 7) 731 Y tu draw?
(0, 7) 732 Ai dyna fel y mae hi?
(0, 7) 733 Na, Pobun, nid af i yno, ac ni'm cei i i'th ganlyn!
(0, 7) 734 Byddai well gennyf fod mewn tywyllwch ar fara a dŵr am ddeng mlynedd!]
(Pobun) [Och na bawn heb fy ngeni!
 
(Pobun) Ni byddaf ddedwydd byth mwy, os gadewch fi fel hyn!]
(0, 7) 737 Hai, ŵr!
(0, 7) 738 Beth sydd?
(0, 7) 739 Cymer galon, ddyn, a phaid â dechrau cwyno!
(0, 7) 740 Ond rhaid iti adael i mi ddywedyd hyn—ni ddygi di monof i unwaith ar hyd y llwybr yna.
(Pobun) {Wrth y Car Tenau.}
 
(Car Tenau) Y mae cwlwm gwythi yn fy nhroed, peth blin gynddeiriog, Pobun—bydd yn digwydd i mi'n sydyn iawn.
(0, 7) 746 [{Gan aros ennyd a dywedyd dros ei ysgwydd.}
(0, 7) 747 Ni elli di mo'n hudo ni, gad hynny heibio, ond y mae i mi enethig lân adref sy'n awyddus dros ben am deithio.
(0, 7) 748 Pe bai honno wrth dy fodd, fe'i rhoddwn iti o ewyllys da.
(0, 7) 749 Efallai yr ai hi gyda thi i'r daith.]
(Pobun) [Na, dangos i mi beth yn wir yw dy feddwl, a ddoi di gyda mi ai aros yma, dyna'r cwbl y mynnwn ei wybod.]
 
(Pobun) [Na, dangos i mi beth yn wir yw dy feddwl, a ddoi di gyda mi ai aros yma, dyna'r cwbl y mynnwn ei wybod.]
(0, 7) 751 Aros yma, a dymuno pob da i tithau!